Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-05-12 papur 1

Blaenraglen waith - Trafodaeth bellach ynghylch sesiynau tystiolaeth un-tro

 

At:                                  Y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gan:                               Gwasanaeth y Pwyllgorau

Dyddiad cyfarfod:        8 Chwefror 2012

 

Diben

 

1.   I drafod a chytuno sut i ddefnyddio’r pedwerydd diwrnod sydd ar gael i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rhwng nawr a thoriad yr haf, ar gyfer sesiwn dystiolaeth un tro.

 

Cefndir

 

2.   Yn ei gyfarfod ar 2 Chwefror, trafododd y Pwyllgor bynciau ar gyfer pedwar sesiwn dystiolaeth ‘un tro’ yn ystod tymhorau’r gwanwyn a’r haf.

 

3.   Cytunodd y Pwyllgor i drefnu ymchwiliadau un-dydd yn ymwneud â’r pynciau a ganlyn:

-        amseroedd aros am gadeiriau olwyn yng Nghymru: gwaith dilynol ar yr argymhellion a wnaed yn Adroddiad Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Trydydd Cynulliad ar Wasanaethau Cadair Olwyn yng Nghymru;

-        atal thrombo-emboledd gwythiennol; a

-        lleihad mewn symudiadau’r ffetws a marw-enedigaethau yng Nghymru.

 

4.   Yn ogystal â hyn, cytunodd y Pwyllgor:

-        i ail-ystyried, yn hwyrach, pa bwnc i’w ddewis ar gyfer ei bedwaredd sesiwn,gan ddewis rhwng gwasanaethau cyd-ymatebwyr, argaeledd meddyginiaethau, ac amseroedd aros am wasanaethau orthopedig;

-        i aros am adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin ar ei ymchwiliad cyfredol ar Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) cyn ymgymryd â gwaith ar y pwnc hwn; a

-        bod anghydraddoldebau iechyd yn bwnc sydd yn mynnu cyfnod hirach nag un dydd i’w ystyried ac, o ganlyniad, y dylai’r pwnc hwnnw gael ei osod ar restr o ymchwiliadau posib at y dyfodol.

 

 

Opsiynau

 

5.   Efallai yr hoffai’r Pwyllgor ddewis un o’r tri phwnc a ganlyn ar gyfer y pedwerydd diwrnod rhydd sydd ganddo:

-        gwasanaethau cyd-ymatebwyr;

-        argaeledd meddyginiaethau; ac

-        amseroedd aros am wasanaethau orthopedig.

 

Atodir gwybodaeth am y pynciau hyn yn Atodiad A i’r papur hwn.

 

6.   Ar y llaw arall, efallai yr hoffai’r Pwyllgor gadw bwlch yn ei raglen er mwyn caniatau digon o ryddid i ymateb i unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg neu / a deddfwriaeth.

 

Camau i’w cymryd

 

7.   Gwahoddir y Pwyllgor i ystyried a chytuno sut yr hoffai ddefnyddio’r pedwerydd diwrnod sydd ar gael yn y flaenraglen waith rhwng nawr a thoriad yr haf.


Atodiad A

Y Pwyllgor Iechyd  a Gofal Cymdeithasol

 

Blaenraglen waith

 

 

 

Dyddiad y sesiwn:

2 Chwefror 2012

 

 

 

 

 

Cyflwyniad

Diben y papur hwn yw darparu gwybodaeth berthnasol i gynorthwyo Aelodau o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wneud penderfyniadau wrth gwmpasu ymchwiliadau byr yn y dyfodol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Cynhyrchwyd y papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil i’w ddefnyddio gan y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Victoria Paris yn  y Gwasanaeth Ymchwil
Estyniad 8678
E-bost:
victoria.paris@wales.gov.uk

Description: \\GBA01\Home\OrrR\My Pictures\MRS2.PNG



Cylch Gwaith y Pwyllgor

Rôl y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw ystyried materion yn ymwneud â gwariant, gweinyddiaeth, polisi a deddfwriaeth o fewn ei gylch gwaith. Rhestrir prif feysydd cyfrifoldeb y Gweinidog sy’n dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor isod.

 

 

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Gofal cymdeithasol

Gwasanaethau iechyd meddwl

Iechyd y cyhoedd a diogelu’r cyhoedd

Gwella iechyd

Gofalwyr

Gweithgareddau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol

Cymhorthion, addasiadau a chymorth yn y cartref

Byw’n Annibynnol

Gofal yn y gymuned

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Diogelwch bwyd

Gwasanaeth iechyd y Gwasanaeth Carchardai

Rheoleiddio lleoliadau preswyl a chartref i oedolion

Ymchwil a datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Materion polisi perthnasol yr UE

 

Hyd yma y tymor hwn, mae’r Pwyllgor wedi cwblhau’r gwaith canlynol:

Ymchwiliadau

Ymchwiliad sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau i leihau'r risg o strôc ac effeithiolrwydd polisïau Llywodraeth Cymru o ran mynd i’r afael ag unrhyw wendidau yn y gwasanaethau hyn - cwblhawyd fis Rhagfyr 2011

Sesiwn dystiolaeth ar oblygiadau toiledau cyhoeddus annigonol i iechyd y cyhoedd – yn parhau

Ymchwiliad i effeithiolrwydd y contract Fferylliaeth Gymunedol o ran gwella cyfraniadau fferylliaeth gymunedol i wasanaeth iechyd a lles - yn parhau

Ymchwiliad i’r ddarpariaeth  gofal preswyl yng Nghymru a sut y gall fodloni anghenion presennol pobl hŷn a’u hanghenion yn y dyfodol – yn parhau

Deddfwriaeth

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o’r datblygiadau deddfwriaethol canlynol:

Bil Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): cyhoeddwyd y Bil drafft a’r papur ymgynghori gan Lywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2011. Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 7 Mawrth 2012. 

Bil Rhoi Organau (Cymru): cyhoeddwyd y Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru ar 8 Tachwedd 2011. Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 31 Ionawr 2012.

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru): caiff ymgynghoriad cyhoeddus ei lansio fis Mawrth 2012 gyda’r nod o gyflwyno’r Bil i Gynulliad  Cenedlaethol Cymru fis Hydref 2012. Caiff Rheoliadau a Chod Ymarfer ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol eu datblygu ar ôl i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): bwriedir cyhoeddi ymgynghoriad yn 2012.

 


Ymchwiliadau posibl: gallai unrhyw un o’r pynciau canlynol fod yn destun ymchwiliad amserol i’r Pwyllgor.

Teitl

Pwnc

Anghydradd-oldebau iechyd

Fis Mawrth 2011 cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol adroddiad yn dwyn y teitl Pa mor deg yw Cymru?  a oedd yn galw am leihau’r anghydraddoldebau iechyd rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol, yn arbennig y rhai sy’n effeithio ar ddynion hŷn a dynion iau. Yn Rhaglen Lywodraethu 2011-2016 nodir y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi’r camau sydd yn ei phapur gwaith technegol Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb  ar waith er mwyn atal iechyd gwael a lleihau anghydraddoldebau iechyd. 

Efallai yr hoffai’r Pwyllgor ystyried y cynnydd a wneir o ran rhoi’r camau yn y cynlluniau gweithredu strategol ym maes iechyd ar waith a sut y mae hyn yn lleihau anghydraddoldebau rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol yng Nghymru.

Amseroedd aros am gadeiriau olwyn yng Nghymru

Fis Mai 2010 cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol bryd hynny Adroddiad ar Wasanaethau Cadeiriau Olwyn yng Nghymru.  Cynhaliwyd yr ymchwiliad o ganlyniad i feirniadaeth o effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn o ran diwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaethau, a’r ffaith bod amseroedd aros am asesiad a darpariaeth yn bryder penodol. Cyhoeddwyd Adolygiad Cymru Gyfan o Ystum a Symudedd - Cam 2 fis Hydref 2010 ac yn sgil hynny dyrannwyd £2.2m o gyllid rheolaidd ychwanegol yn y gyllideb ddrafft er mwyn helpu i weithredu canfyddiadau ac argymhellion yr Adolygiad, ac yn benodol er mwyn sicrhau bod y safonau’n ymwneud ag amseroedd aros yn Fframwaith Gwasanaethau Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc yn cael eu cyrraedd erbyn mis Mawrth 2012.[1]  Fis Mawrth 2011 sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Cymru Gyfan y Gwasanaeth Ystum a Symudedd, fel Grŵp Cynghori ar gyfer Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC), i weithredu argymhellion yr Adolygiad. 

Efallai yr hoffai’r Pwyllgor adolygu’r cynnydd a wneir o ran gweithredu’r argymhellion yn adroddiad y cyn Bwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol mewn perthynas ag amseroedd aros am gadeiriau olwyn, yr argymhellion yn adroddiad Adolygiad Cymru Gyfan o Ystum a Symudedd - Cam 2, a’r cynnydd a wneir o ran cyrraedd y safon amseroedd aros erbyn Mawrth 2012.

Cyd-ymatebwyr

Codwyd pryderon nad yw gwasanaethau cyd-ymatebwyr yn cael eu defnyddio’n effeithiol. 

Efallai yr hoffai’r Pwyllgor ymchwilio i’r defnydd o wasanaethau cyd-ymatebwyr ledled Cymru; y math o alwadau y mae cyd-ymatebwyr yn ymdrin â hwy ar hyn o bryd; effeithiolrwydd clinigol; y potensial i arbed costau; a’r amseroedd ymateb targed.

Atal thrombo-emboledd  gwythiennol

Mae emboledd yn yr ysgyfaint ar ôl thrombosis gwythiennau dwfn ymysg cleifion sydd wedi’u derbyn i’r ysbyty yn achosi rhwng 25,000 a 32,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn y DU.[2]  Fis Chwefror 2005 cyhoeddodd Pwyllgor Iechyd Tŷ’r Cyffredin adroddiad yn dwyn y teitl  The Prevention of Venous Thromboembolism in Hospitalised Patients Fis Ionawr 2010 cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ganllawiau clinigol ar leihau’r risg o thromboemboledd gwythiennol: CG92 - Reducing the risk of venous thromboembolism (deep vein thrombosis and pulmonary embolism) in patients admitted to hospital Yn y canllawiau rhoddir cyngor yn seiliedig ar arferion gorau ar leihau’r risg o thromboemboledd gwythiennol (VTE) ymysg cleifion a dderbynnir i’r ysbyty. 

Efallai yr hoffai’r Pwyllgor ymchwilio i sut y gweithredir canllawiau NICE ledled Cymru ac i waith 1000 o Fywydau a Mwy ar atal VTE.

Lleihad mewn symudiad-au’r ffetws

Fis Mawrth 2008 cyhoeddodd NICE ganllawiau clinigol ar ofal cynenedigol: Antenatal care: routine care for the healthy pregnant woman. Fis Chwefror 2011 cyhoeddodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr (RCOG) gyngor newydd i glinigwyr ar reoli menywod sy’n profi Lleihad mewn Symudiadau’r Ffetws (RFM) yn ystod beichiogrwydd, ac mae’n cynnig argymhellion ynghylch sut i reoli menywod ag RFM yn y gymuned ac mewn ysbytai. 

Efallai yr hoffai’r Pwyllgor ymchwilio i sut y gweithredir canllawiau NICE a RCOG ledled Cymru a’r gwasanaethau a gaiff menywod beichiog mewn perthynas ag RFM yn y gymuned ac mewn ysbytai.

Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)

Fis Chwefror 2011 cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar y pryd ei Adroddiad ar Driniaeth ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog. Yn 2010 roedd Llywodraeth Cymru wedi dechrau cyflwyno gwasanaeth iechyd meddwl a lles arbenigol i gyn-filwyr yn dilyn cynllun peilot yng Nghaerdydd a’r Fro. Yn yr adroddiad gwnaethpwyd argymhelliad ar wella’r broses o gasglu data ar nifer yr achosion o PTSD; codi ymwybyddiaeth o PTSD ymysg cyn-filwyr a’u teuluoedd; gwella mynediad i wasanaethau camddefnyddio sylweddau i gyn-filwyr â PTSD; a throsglwyddo hanes meddygol o’r lluoedd arfog i bractisau meddygon teulu. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) yn cynnal adolygiad o ddigonolrwydd, argaeledd a hygyrchedd darpariaeth y GIG i bersonél y Lluoedd Arfog, eu teuluoedd a chyn-filwyr yng Nghymru. Dechreuodd yr Adolygiad ddydd Gwener 9 Rhagfyr 2011 a bydd yn parhau hyd 20 Chwefror 2012. Bydd adroddiad ar y canfyddiadau’n cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru fis Ebrill 2012. Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal ymchwiliad i Gymorth i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog yng Nghymru, a fydd yn edrych ar gydgysylltu trawsffiniol a’r modd y mae’n effeithio ar gyn-filwyr, a’r cydgysylltu rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn, Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig oedd 18 Tachwedd 2011 ac mae’n debygol y bydd y sesiynau casglu tystiolaeth lafar yn dechrau fis Chwefror 2012.

Efallai yr hoffai’r Pwyllgor edrych ar y cynnydd a wneir o ran gweithredu’r argymhellion yn adroddiad y cyn Bwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar PTSD ac, wedi iddynt gael eu cwblhau, yr adroddiadau a’r argymhellion a wneir gan HIW a’r Pwyllgor Materion Cymreig mewn perthynas â PTSD.

Amseroedd aros am wasanaeth-au orthopedig

Fis Rhagfyr 2010, cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bryd hynny, Edwina Hart AC, ddatganiad ar amseroedd aros am wasanaethau orthopedig.  Dywedodd y Gweinidog y byddai’r gwaith yn dechrau ar ddatblygu cynlluniau i gynyddu capasiti orthopedig, ac ym mis Mawrth 2011 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad ychwanegol o £65 miliwn dros y tair blynedd nesaf i gwtogi amseroedd aros am wasanaethau orthopedig yng Nghymru. Fis Gorffennaf 2011 dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths AC, fod arian ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu atebion cynaliadwy i gynyddu capasiti ac i leihau’r galw am wasanaethau orthopedig ac erbyn mis Mawrth 2012 na ddylai neb fod yn aros mwy na 36 o wythnosau. Mae cynlluniau ar waith i gynyddu capasiti, yn cynnwys adeiladu dwy theatr fodiwlaidd yn y gogledd, a fydd yn cyflogi meddygon ymgynghorol ychwanegol. Yn y de, mae BILlau yn ymchwilio i ffyrdd arloesol o leihau’r galw ledled y Rhanbarth. 

Efallai yr hoffai’r Pwyllgor adolygu cyflawniad BILlau o ran y targedau amser aros; y defnydd o gyllid ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru; ac effeithiolrwydd y cynlluniau i gynyddu capasiti a lleihau’r galw.

 

 

 



[1] Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, Cyd-bwyllgor, Gwasanaeth Ystum a Symudedd Cymru Gyfan, Eitem 15 ar yr Agenda, 29 Tachwedd 2011 [darllenwyd 23 Ionawr 2012]

[2] Pwyllgor Iechyd Tŷ’r Cyffredin, HC99, The Prevention of Venous Thromboembolism in Hospitalised Patients, Chwefror 2005 [darllenwyd 23 Ionawr 2012]